Mae Alka Ahuja MBE yn Seiciatrydd Ymgynghorol Plant a’r Glasoed ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan ac yn arweinydd Clinigol Cenedlaethol ar gyfer Canolfan Gofal a Alluogir gan Dechnoleg Llywodraeth Cymru. Hi yw Cadeirydd etholedig Coleg Brenhinol y Seiciatryddion (RCPsych) yng Nghymru ac yn flaenorol mae wedi dal nifer o rolau yng Nghyngor Datganoledig RCPsych Cymru, gan gynnwys Cadeirydd Cyfadran Plant a’r Glasoed a Swyddog Ymgysylltu â'r Cyhoedd. Hi hefyd oedd is-gadeirydd cyfadran Seiciatreg Plant a'r Glasoed yng Ngholeg Brenhinol y Seiciatryddion tan yn ddiweddar.
Mae Alka yn Athro Gwadd ym Mhrifysgol De Cymru ac yn Athro Anrhydeddus ym Mhrifysgol Caerdydd. Ymunodd â Phrifysgol De Cymru fel Cymrawd Gwadd yn 2006 ac mae bellach yn Athro Gwadd ers 2014.
Mae ei diddordebau yn cynnwys ymchwil ansoddol, anhwylderau niwroddatblygiadol a chyd-gynhyrchu mewn gofal iechyd ac iechyd digidol. Mae hi wedi cyhoeddi mewn cyfnodolion a adolygir gan gymheiriaid a dyfarnwyd MBE iddi am ei gwasanaethau i'r GIG yn ystod y pandemig.
Yn y gorffennol, gwnaeth ei hyfforddiant seiciatryddol yn yr India a gweithiodd fel darlithydd ac ymchwilydd ym Mhrifysgol Mumbai. Mae ei gwaith ymchwil a’u herthyglau ar faterion seicogymdeithasol plant stryd yn India wedi derbyn cydnabyddiaeth yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.