Darllenydd ydy Carolyn mewn Gofal Integredig ym Mhrifysgol De Cymru ac Uwch Gymrawd Ymchwil yn Nghanolfan PRIME Cymru lle mae’n arwain ar thema drawsbynciol gofal cymdeithasol a chynnig cymorth ar gyfer thema cyflyrau hir-dymor. Rhith ganolfan ydy canolfan PRIME Cymru mewn partneriaeth gyda phrifysgolion Caerdydd, Bangor, Glyndŵr, Abertawe a Phrifysgol De Cymru, wedi’u hariannu gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru. Mae’n gydweithrediad aml-ddisgyblaethol rhwng disgyblaethau gofal sylfaenol a brys.
Magwyd Carolyn yn Sir Fynwy wledig ac mae’n ddwyieithog, wedi dysgu Cymraeg ar yr aelwyd ac wedi mynychu addysg cyfrwng Cymraeg. Daeth Carolyn yn hwyr i fyd addysg ar ôl cychwyn ei hyfforddiant fel nyrs yn 1981, a chwblhaodd radd y Brifysgol Agored mewn gwyddor cymdeithasol yn 1996. Aeth ymlaen i astudio gradd MSc ‘Astudiaethau Rhyngbroffesiynol’ yn APCC yn 1998 ac yna PhD wedi hynny mewn ‘Ystyried integreiddiad gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol mewn ardal ddifreintiedig o Dde Cymru ‘ ym Mhrifysgol Coventry yn 2010.
Swydd gyntaf Carolyn fel nyrs staff oedd yn Ysbyty Prifysgol Cymru, gweithiodd wedyn yn Ymddiriedaeth GIG Neville Hall ac Awdurdod Iechyd Swindon lle daeth yn chwaer ward yn 1987 yn gofalu am bobl hŷn. Tra’n cymryd seibiant o weithio’n llawn amser (1994-99) i fagu teulu, gweithiodd Carolyn fel ymarferydd/rheolwr ysbyty ddydd gymunedol deithiol. Trefnodd y tîm dan arweiniad nyrs sefydliad ‘Pontydd’ a leolwyd yn y pen draw yn y trydydd sector, oedd yn cynnwys Nyrsys, ffisiotherapyddion, Therapyddion Galwedigaethol. gweithwyr cymdeithasol ar ymweliad, Meddygon Teulu ac ymgynghorydd gofal yr henoed. Ar ôl dychwelyd i weithio llawn amser, gweithiodd Carolyn fel Rheolwr Cymorth Busnes ar gyfer gweithwyr proffesiynol cynghreiriol yn Ymddiriedolaeth GIG Gwent a Swyddog Datblygu gyda Grŵp Comisiynu Blaenau Gwent yn datblygu model newydd o wasanaethau dydd integredig a sefydlodd a rheoli ar gyfer Bwrdd Iechyd Blaenau Gwent tan 2004. Heddiw, mae gan Carolyn ddealltwriaeth unigryw o wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, wedi gweithio fel nyrs, fel rheolwr yn y GIG, yn datblygu ac ymchwilio i wasanaethau gofal integredig ac yn ystod y blynyddoedd diwethaf fel ymddiriedolwr a chadeirydd Age Cymru Gwent.
Ym Mhrifysgol De Cymru, mae Carolyn wedi datblygu dyfarniadau megis BSc (Anrh) Rheoli Iechyd a Gofal Cymdeithasol, rhaglen 'Step up to Management' ac MSc Gofal Integredig. Arbenigedd Carolyn ydy dulliau cymysg cynwysedig, methodolegau ansoddol, gwerthusiad Realydd a Chyfranogol, a dulliau consensws. Mae ffocws ei hymchwil ar wasanaethau iechyd a gofal sydd heddiw’n cynnwys sefydlu a chyd-gadeirio Rhwydwaith Ymchwil Presgripsiynu Cymdeithasol Cymru gyda’r WCVA (Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru ) i gasglu tystiolaeth gritigol ar gyfer presgripsiynu cymdeithasol yng Nghymru ac arwain y FRAIT (Offeryn ac Adnodd Asesu Cadernid Teulu).