Heulwen Blackmore - Cymrawd Gwadd

Mae Heulwen yn gyn-was sifil gafodd yrfa yn Llywodraeth Cymru ac mae ganddi arbenigedd helaeth mewn polisi a gweithredu iechyd a gofal cymdeithasol, cydraddoldeb a hawliau dynol. Mae ganddi brofiad o weithio ar draws y llywodraeth, o fod yn arweinydd Cymru ar Ddeddf Iechyd 1999 i ddod yn ffigwr blaenllaw ar Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Gweithiodd Heulwen yn uniongyrchol gyda Gweinidogion ac uwch wleidyddion trwy gydol y broses hon. Yn ddiweddar, mae hi wedi dechrau gweithredu ar ei liwt ei hun, gan weithio ar lefel genedlaethol, ranbarthol a lleol i ddarparu cyngor a chefnogaeth i'r trydydd sector, byrddau iechyd ac awdurdodau lleol mewn perthynas â pholisi, gweithredu ac ymarfer. Mae hi wedi bod yn gweithio gyda SIGCC/WIHSC hyd yma yn y meysydd hynny.