Malcolm Prowle – Athro Gwadd

Athro rheoli perfformiad ydy Malcolm ym Mhrifysgol Nottingham Trent a Swydd Caerloyw. Caiff ei gydnabod yn arbenigwr cydnabyddedig ar economeg, cyllid a rheoli gwasanaethau cyhoeddus, ac mae ganddo brofiad helaeth fel cyflogai ym maes iechyd, addysg a llywodraeth leol, fel ymchwilydd academaidd ac fel ymgynghorydd rheoli gyda KPMG a PWC. Mae wedi gweithio ar lefelau uchaf llywodraeth (y DU a thramor) ac wedi cynghori Gweinidogion, Llysgenhadon, uwch weision sifil, rheolwyr gwasanaethau cyhoeddus a gweithwyr proffesiynol gwasanaeth ar amrywiaeth o bolisi cyhoeddus a materion gweithredu. Cafodd nifer o gyfnodau hir ar secondiad i Adran Iechyd y DU a bu’n ymgynghorydd i WHO, UNHCR, UNPA, DFID a Banc y Byd . Bu’n rheolwr cyllid i Bwyllgorau Dethol Iechyd y Tŷ Cyffredin ac yn dyst arbenigol i Bwyllgor Dethol Materion Cyfansoddiadol a Gweinyddol Cyhoeddus y Tŷ Cyffredin. Bu hefyd yn ymgynghorydd i ddau gyn Ysgrifennydd Gwladol Cysgodol Iechyd. Mae’n awdur dros 80 o gyhoeddiadau yn cynnwys wyth llyfr a nifer o adroddiadau ymchwil a phapurau academaidd.