Senedd - National Assembly for Wales_10202.jpg

Prosiectau allweddol - effaith ymchwil

Gwerthusiad o'r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant - EFFAITH


Mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu partneriaeth rhwng academyddion blaenllaw ar draws pedair prifysgol yng Nghymru ac ymgynghorwyr arbenigol i werthuso Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 sy'n torri tir newydd.

Yr Athro Mark Llewellyn, Cyfarwyddwr Athrofa Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cymru (WIHSC), sy'n arwain y tîm ochr yn ochr â'r Athro Fiona Verity, Cyfarwyddwr Ysgol Ymchwil Gofal Cymdeithasol Cymru.

Bydd cydweithwyr o Brifysgol Abertawe, Prifysgol Bangor a Phrifysgol Caerdydd hefyd yn gweithio fel partneriaid yn yr astudiaeth, sy'n cael ei chefnogi gan Ganolfan PRIME Cymru.

Bydd y prosiect EFFAITH yn darparu asesiad annibynnol a gwrthrychol o weithrediad y Ddeddf a'r ffordd y mae wedi effeithio ar les pobl sydd angen gofal a chymorth, a'u gofalwyr.




Y Llwybr at Gynaliadwyedd ar gyfer GIG Cymru


Gweithiodd WIHSC mewn partneriaeth â'r Sefydliad Iechyd, elusen annibynnol sydd wedi ymrwymo i sicrhau gwell iechyd a gofal iechyd i bobl yn y DU, ar ei hastudiaeth Llwybr at Gynaliadwyedd a fodelodd amcanestyniad ariannu ar gyfer GIG Cymru hyd at 2030/31.

Ein rôl ni oedd darparu ystod o amcangyfrifon gwariant tebygol i'r modelwyr econometrig. Deilliodd y rhain o gyfres o ddigwyddiadau cyfranogol gydag arweinwyr clinigol ac anghlinigol allweddol y GIG lle gofynnwyd iddynt ystyried y rôl a'r effeithiau tebygol y byddai Gofal Iechyd Darbodus yn eu sicrhau.


Treialon clinigol i bennu effaith ymyriadau rhagnodi cymdeithasol


Mae WIHSC wedi cyflwyno dwy astudiaeth ddichonoldeb mewn partneriaeth â chydweithwyr sy'n rhan o Ganolfan PRIME Cymru yn PDC. Sefydlwyd dau dreial gennym mewn partneriaeth ag ymyriadau rhagnodi cymdeithasol sy'n cael eu rhedeg gan Mind Cymru (SPRING) a'r Groes Goch Brydeinig (PROSPECT).

Dyma'r astudiaethau cyntaf o'u math sy'n cael eu cynnal yn y DU, ac fe'u cydnabuwyd gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd Iechyd yn eu galwad ddiweddar am ymchwil ychwanegol yn y maes hwn. 



Gwahaniaethau mewn cyflog ac amodau ar gyfer gweithwyr gofal cymdeithasol


Comisiynwyd WIHSC gan Lywodraeth Cymru i gwblhau adolygiad tystiolaeth o amrywiad o ran teledau ac amodau contractau cyflogaeth gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Mae canfyddiadau allweddol yr adroddiad yn dangos bod rhywfaint o dystiolaeth o amrywiad mewn cyflogau ac amodau o fewn a rhwng pob un o'r sectorau gofal cymdeithasol a rhyngddynt hwy a'r GIG.

Cefnogwyd yr ymchwil gan nifer o randdeiliaid allweddol a weithredodd fel grŵp cyfeirio ar gyfer y prosiect. Roedd y rhanddeiliaid yn cynnwys Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC), Fforwm Gofal Cymru, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC), Gofal Cymdeithasol Cymru, ADSS Cymru, UNSAIN Cymru, Addysg a Gwella Iechyd Cymru, Conffederasiwn GIG Cymru, Uwch Reolwyr Adnoddau Dynol ALlau, Uwch Weithlu'r GIG a Rheoli Datblygu Sefydliadol; a Grŵp Cyfeirio Arbenigol sefydlog WIHSC (ERG).



Arloesi mewn modelau gofal offthalmolegol – rôl swyddogion cyswllt clinig llygaid (ECLOs)

Mae arloesi mewn gwasanaethau wedi bod wrth wraidd ein gwaith ers sefydlu WIHSC. Gan weithio mewn partneriaeth â Chanolfan Economeg Iechyd Abertawe, mae ein hastudiaeth effaith o Swyddogion Cyswllt Clinig Llygaid (sydd ar gael yn Saesneg yn unig) yn un astudiaeth o'r fath.

Nodwyd sail dystiolaeth gennym sydd wedi dylanwadu ar weithredu'r rôl hon ymhellach mewn clinigau cleifion allanol offthalmoleg. Cyhoeddwyd agweddau allweddol ar yr astudiaeth yn y British Medical Journal.




Gwerthusiad o'r cynlluniau peilot Nyrsio Ardal Gymdogaeth yng Nghymru


Cynhyrchodd grŵp WIHSC werthusiad o dri phrosiect peilot Nyrsio Ardal Gymdogaeth yng Nghymru. Comisiynwyd yr adroddiad gan Lywodraeth Cymru ac roedd yn cynnwys cynlluniau peilot Nyrsio Ardal Gymdogaeth ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, Bwrdd Iechyd Addysgu Powys a Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan.

Cyhoeddodd datganiad gan y Gweinidog Iechyd yn Llywodraeth Cymru  fod adolygiad PDC wedi'i gyhoeddi. Dywedodd y Gweinidog ei fod, yn unol ag argymhellion PDC, wedi ymrwymo'n ariannol i ddull Cymru gyfan o amserlennu llwyth achosion ar gyfer nyrsio ardal, a'i fod yn penodi Arweinydd Nyrsio Cenedlaethol ar gyfer Gofal Sylfaenol a Chymunedol i gyflwyno'r hyn a ddysgwyd o'r cynlluniau peilot.