Cyd-gynhyrchu gofal a chanlyniadau


Ystyried y newidiadau mewn gwasanaethau cyhoeddus a hwyluswyd gan wasanaethau dan arweiniad defnyddwyr a chwsmeriaid a gan ddulliau cymorth i gyflenwi canlyniadau ar gyfer pobl.

Dros nifer o flynyddoedd cynhaliodd WIHSC nifer o weithgorau dinasyddion a ddarparodd fforwm lle gellir trin a thrafod problemau allweddol polisi cyhoeddus ac, i ryw raddau, eu datrys. Yn fwy diweddar, mae hyn wedi ffocysu ar fater hanfodol  Antimicrobial Resistance and Stewardship (Ar gael yn Saesneg yn unig) a’r rôl y mae angen i ddinasyddion ei chwarae.

Ar ben hynny, ffocws ein hastudiaeth ymchwil a gyllidwyd gan ein Sefydliad Iechyd i ddeall effaith egwyddorion Gofal Iechyd Darbodus (Prudent Healthcare) (Ar gael yn Saesneg yn unig) ar waith ydy’r modd y mae cyd-gynhyrchu wedi cael (neu heb fod wedi cael) ei integreiddio ym mhrosesau cyflenwi gofal iechyd. Dangosir hyn yng ngwaith graffeg ein cydweithiwr Marina McDonald yn yr Adolygiad Seneddol o Iechyd a Gofal Cymdeithasol.