Darparu sail tystiolaeth y bydd dulliau newydd o gyflenwi’ – boed yn lwybrau newydd, timau newydd, technoleg newydd neu feddyginiaethau newydd – yn gwella canlyniadau.
Bu blaengaredd gwasanaeth wrth wraidd ein gwaith ers cychwyn WIHSC. Gan weithio mewn partneriaeth gyda Chanolfan Abertawe ar gyfer Economeg Iechyd mae ein hastudiaeth DU gyfan o effaith Swyddogion Cyswllt y Clinig Llygaid (impact of Eye Clinic Liaison Officers) (Ar gael yn Saesneg yn unig) yn enghraifft o astudiaeth o'r fath. Nodon ni dystiolaeth a ddylanwadodd ar weithredu’r rôl hon ymhellach o fewn clinigau offthalmoleg cleifion allanol.
I daro tant gwahanol, mae ein hastudiaeth ddiweddar sy’n adolygu'r dull o fynd ati gyda Horizon Scanning for New Medicines (Ar gael yn Saesneg yn unig) wedi effeithio ar y modd y bydd y pedwarawd o ran-ddeiliaid – gwneuthurwyr polisi mewn llywodraeth, sefydliadau’r GIG, yr awdurdod cenedlaethol therapiwteg a’r diwydiant – yn cydweithio.