IMPACT MOVING TOGETHER TOGETHER FINAL (COMPRESSED)

Gwerthuso Effaith Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014


Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn rhan hanfodol o bolisi Llywodraeth Cymru i greu ‘newidiadau trawsnewidiol’ yn narpariaeth gwasanaethau cymdeithasol ar draws Cymru. Mae iddi 11 o rannau wedi’u seilio ar bum egwyddor: llesiant, llais a rheolaeth -yn rhedeg drwy'r holl Ddeddf (ibid., tud.9); ataliad ac ymyrraeth gynnar; gweithio aml-asiantaethol; a chyd-gynhyrchu.

Comisiynodd Llywodraeth Cymru bartneriaeth o academyddion ar draws pedair prifysgol yng Nghymru i gynnig gwerthusiad o'r Ddeddf. Cynhaliwyd y gwerthusiad cenedlaethol hwn – astudiaeth IMPACT– o fis Tachwedd 2019 hyd fis Hydref 2022. Arweiniwyd yr astudiaeth gan yr Athro Mark Llewellyn, cyfarwyddwr WHISC ym Mhrifysgol De Cymru. Mae Adroddiad Terfynol ar ein gwaith (ar gael yn y Gymraeg a’r Saesneg, crynodeb ohono ac ar gael mewn fformat Hawdd i’w Ddarllen)  wedi’i gyhoeddi erbyn hyn.

Ein canfyddiadau

Mae’r ffilm fer hon yn cynnig trosolwg o’r canfyddiadau allweddol a cheir rhagor o fanylion drwy wrando ar arweinwyr yr astudiaeth, yr Athro Mark Llewellyn a’r athro Fiona Verity, Prifysgol Abertawe.

Crynodeb o'r canfyddiadau:

  • Mae’r ddeddfwriaeth a’i hegwyddorion sylfaenol yn cynnig fframwaith cadarn ar gyfer newid ymarferol ym maes gwasanaethau cymdeithasol ac wrth eu cyflenwi;
  • Newidiodd y cyd-destun y mae’r Ddeddf wedi’i gosod ynddo dros amser ac mewn modd digynsail. Ar adeg ysgrifennu’r Adroddiad Terfynol hwn, cyfunir grymoedd o ran y pandemig iechyd cyhoeddus byd-eang, argyfwng y gweithlu ac argyfwng costau byw gyda sialensiau'r tymor hirach o ran demograffeg a chyni, a hynny'n creu realiti newydd ac acíwt nad oedd naill ai’n bodoli o gwbl yn 2016 neu o leiaf ddim i’r un graddau;
  • Ceir tystiolaeth glir a chymhellgar o swmp anhygoel o waith caled, brwdfrydedd, ymrwymiad, y gallu i addasu ac ewyllys da, gan yr holl randdeiliaid o gofio graddfa a sgôp y sialensiau sy’n wynebu’r gweithlu a gofalwyr di-dâl, ond hefyd, ceir tystiolaeth glir a chymhellgar o'r problemau sy’n dal i fodoli o fewn y system. Fodd bynnag, nid stori am briodoli mo’r Adroddiad Terfynol hwn – mae’r sefyllfa yn destun dadl, mae’n gymhleth, yn llawn amrywiaethau bach, di-drefn, heb esboniadau eglur a datrysiadau syml;
  • Nodir cryfderau cyson ac ar draws y rhanddeiliaid yng ngham cyntaf oes y Ddeddf (fel y deddfwyd). Mae’r darlun am yr ail gam yn un cymysg ond yn bositif yn bennaf pan droswyd y Ddeddf o fod yn ddeddfwriaeth ‘ar bapur’ i fod yn weithredol. Safbwynt llawer mwy negyddol a gafwyd gan ddefnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr nad oedd yn gallu cyflawni’r canlyniadau roedden nhw’n eu dymuno o ran y gofal a’r cymorth roedden nhw’n ei dderbyn yn gyson (yn ôl yr hyn a brofwyd);
  • Canlyniad hyn fu i nifer o bobl a gyfwelwyd ar gyfer yr astudiaeth hon deimlo nad oedd ganddyn nhw unrhyw gysylltiad ag addewid yr egwyddorion, a briodolir yn rhannol i’r ffactorau sydd wedi effeithio ar wasanaethau cymdeithasol ers i’r Ddeddf ddod i rym ac mae rhwystredigaeth wedi datblygu o gwmpas hyn;
  • Dydy’r daith tuag at wireddu nod uchelgeisiol y Ddeddf ddim yn gyflawn fel y mynegwyd yn gyffredinol gan gyfranogwyr yr astudiaeth hon. Felly, y cwestiwn ydy beth fydd y camau nesaf  ar y daith, pwy ddylai eu cymryd, i ble mae’r daith yn arwain a phryd fyddwn ni’n gwybod ein bod wedi cyrraedd?


Roedd tri chwestiwn allweddol roedden ni’n ceisio eu hateb a gellir ystyried hyn ymhellach ar y dolenni cyswllt isod