Canfu ein hadroddiad, gyhoeddwyd yn 2022, ar Ddisgwyliadau a Ehrofiadau pobl sy’n byw yng Nghymru sy’n derbyn gofal a chymorth, neu sy’n ofalwyr, y dylai’r rhai sy’n dibynnu ar wasanaethau cymdeithasol allu disgwyl cymorth pan a lle mae ei angen, ac nad oes angen iddyn nhw frwydo i gael eu clywed. Cymerodd bron i 200 o gyfranogwyr ran yn y cam hwn o’r astudiaeth, ac er bod rhai o’r canfyddiadau’n gadarnhaol – dywedodd nifer o ymatebwyr eu bod yn teimlo bod gweithwyr proffesiynol rhoi mwy o sylw iddyn nhw ers y Ddeddf, a bod ganddyn nhw well perthynas â’u gweithiwr cymdeithasol – canfu’r adroddiad nifer o faterion y mae angen rhoi sylw iddyn nhw:
Yn ogystal, ac wedi’u cyhoeddi ochr yn ochr â’r Adroddiad Terfynol ac er mwyn ei gefnogi, mae’r tîm wedi cynhyrchu cyfres o adroddiadau ychwanegol sy’n rhoi ffocws ar yr egwyddorion unigol sy’n sail i’r Ddeddf. Rydyn ni hefyd wedi cynhyrchu dadansoddiad o oblygiadau ariannol ac economaidd gweithredu’r Ddeddf. Maen nhw'n caniatáu archwiliad manwl o’r galluogwyr a’r rhwystrau a brofwyd wrth weithio tuag at nodau a dyheadau’r Ddeddf: