Gwerthuso Gweithrediad Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru)

Dull o fynd ati ar yr astudiaeth


Aeth y tîm o gwmpas eu gwaith drwy archwilio gweithrediad ac effaith y Ddeddf o ran ei phum egwyddor – llais a rheolaeth, llesiant, cyd-gynhyrchu, gweithio aml-asiantaethol, ac atal ac ymyrraeth gynnar – a goblygiadau ariannol pob un o'r rhain.

Gwerthuswyd pob un o’r egwyddorion hyn gan ‘arweinydd thema’ academaidd wedi’i gefnogi gan ymgynghorydd arbenigol. Roedd y cyfuniad hwn yn hanfodol i sicrhau bod sgiliau a gwybodaeth yr academyddion yn cael eu hategu gan yr arbenigedd ymarferol a’r profiad o lunio a gweithredu polisi, darparu a rheoli gofal cymdeithasol, gweithio gyda dinasyddion ar draws ffiniau sefydliadol, a rhoi pobl yng nghanol yr ‘hyn sy’n bwysig’ iddyn nhw. Gallwch ddod i ddeall mwy am y dull hwn trwy wylio'r ffilm hon.

Cafodd y tîm ymchwil hefyd ei gefnogi a’i herio gan Grŵp Cyfeirio Arbenigol yr Astudiaeth (SERG) a helpodd i gyd-gynhyrchu’r astudiaeth.


Yr Hyn Wnaethon Ni

Defnyddiodd astudiaeth IMPACT ddull Michael Patton (2018) ‘Gwerthusiad sy'n Canolbwyntio ar Egwyddorion / Principles-Focused Evaluation’ (P-FE) fel y fframwaith trosfwaol. Mae P-FE yn canolbwyntio ar werthuso sut mae egwyddorion yn llywio gweithrediad ymyriadau neu raglenni mewn cyd-destunau sy’n gymhleth, yn ansicr ac yn ‘gythryblus’, a beth sy’n digwydd o ganlyniad i hynny. Mae tri chwestiwn canolog yn cael eu hateb mewn gwerthusiad P-FE, ac roedd y rhain yn fframio’r gwaith a wnaed ar draws yr astudiaeth hon: 

 1. I ba raddau y mae egwyddorion ystyrlon a gwerthusiadwy wedi'u mynegi? (Cysyniadoli)

2. Os ydy egwyddorion wedi'u mynegi, i ba raddau ac ym mha ffyrdd y glynir wrthyn nhw'n ymarferol? (Gweithredu)

3. Os cedwir at hyn, i ba raddau ac ym mha ffyrdd y mae'r egwyddorion yn arwain at y canlyniadau a ddymunir? (Optimeiddio) 

Roedd prosiect IMPACT yn rhaglen waith a oedd yn cynnwys 11 astudiaeth unigol. Ar y cyfan, clywsom gan dros 450 o gyfranogwyr yr astudiaeth o bob rhan o Gymru, a darparodd pob un ohonyn nhw adroddiadau manwl a chynhwysfawr o’u profiadau o dan y Ddeddf, o safbwyntiau amrywiol.

Grŵp Cyfeirio Arbenigol yr Astudiaeth

Bu Grŵp Cyfeirio Arbenigol yr Astudiaeth yn ystyried y model cyffredinol o ymgysylltu a phartneriaeth sy’n sail i ddatblygu a gweithredu’r Ddeddf, gan sicrhau bod y gwerthusiad yn adlewyrchu profiadau ‘ar lawr gwlad’ y rhanddeiliaid allweddol gan gynnwys pobl sy’n defnyddio gwasanaethau a’u gofalwyr. Ni chafodd y grŵp ddylanwad ar ganlyniad yr ymchwil annibynnol a wnaed ond yn hytrach bu'n cynghori a chynnig arweiniad ar y rhaglennu, y methodolegau a’r ymgysylltu a ddatblygwyd gan y tîm, gan weithredu fel cyfaill beirniadol.

Roedd y grŵp yn gyngor a chlust i wrando ar sut i oresgyn rhwystrau posibl ac ar ddatblygu cyfleoedd creadigol. Galluogodd y grŵp ddatblygiad cysylltiadau strategol a chynaliadwy rhwng ymchwilwyr a rhanddeiliaid allweddol, a rhannodd wybodaeth am ddulliau a gwasanaethau sy’n cael eu datblygu’n lleol ac yn genedlaethol i lywio’r ymchwilwyr a’r astudiaeth.

Cafodd y grŵp ei gadeirio ar y cyd gan dri unigolyn lleyg: arbenigwr lleyg i gysylltu â’r tîm academaidd, unigolyn ifanc i sicrhau bod hawliau plant a phobl ifanc yn cael eu hadlewyrchu yn yr astudiaeth, ac oedolyn i sicrhau bod hawliau'r defnyddwyr gwasanaeth a'r gofalwyr yn cael eu hadlewyrchu yn yr astudiaeth.