Mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu partneriaeth rhwng academyddion blaenllaw ar draws pedair prifysgol yng Nghymru ac ymgynghorwyr arbenigol i werthuso Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 sy'n torri tir newydd.
Yr Athro Mark Llewellyn, Cyfarwyddwr Athrofa Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cymru (WIHSC), sy'n arwain y tîm ochr yn ochr â'r Athro Fiona Verity, Cyfarwyddwr Ysgol Ymchwil Gofal Cymdeithasol Cymru.
Bydd cydweithwyr o Brifysgol Abertawe, Prifysgol Bangor a Phrifysgol Caerdydd hefyd yn gweithio fel partneriaid yn yr astudiaeth, sy'n cael ei chefnogi gan Ganolfan PRIME Cymru. Bydd y prosiect yn darparu asesiad annibynnol a gwrthrychol o weithrediad y Ddeddf a'r ffordd y mae wedi effeithio ar les pobl sydd angen gofal a chymorth, a'u gofalwyr.
Mae'r Ddeddf yn gwyro'n sylweddol oddi wrth bolisi cyhoeddus blaenorol, ac mae'n nodi newid mawr mewn gofal cymdeithasol a gwasanaethau cymdeithasol ac mewn perthynas rhwng gwasanaethau cymdeithasol a dinasyddion, cymunedau a sectorau y tu allan i'r llywodraeth.