Bydd cydweithwyr o Brifysgol Abertawe, Prifysgol Bangor a Phrifysgol Caerdydd hefyd yn gweithio fel partneriaid yn yr astudiaeth, sy'n cael ei chefnogi gan Ganolfan PRIME Cymru.
Bydd y prosiect yn darparu asesiad annibynnol a gwrthrychol o weithrediad y Ddeddf a'r ffordd y mae wedi effeithio ar lesiant pobl sydd angen gofal a chymorth, a'u gofalwyr.
Dull y tîm fydd archwilio gweithrediad ac effaith y Ddeddf drwy ei phum egwyddor - llais a rheolaeth, llesiant, cyd-gynhyrchu, gweithio amlasiantaethol, ac atal ac ymyrryd yn gynnar - a goblygiadau ariannol pob un o'r rhain.
Bydd pob un o'r egwyddorion hyn yn cael eu gwerthuso gan 'arweinydd thema' academaidd a gefnogir gan gynghorydd arbenigol. Mae'r cyfuniad hwn yn hanfodol i sicrhau bod sgiliau a gwybodaeth yr academyddion yn cael eu hategu gan yr arbenigedd a'r profiad ymarferol o lunio a gweithredu polisi, cyflwyno a rheoli gofal cymdeithasol, gweithio gyda dinasyddion ar draws ffiniau sefydliadol, a rhoi pobl wrth wraidd 'beth sy'n bwysig ' iddyn nhw.
Bydd y tîm ymchwil hefyd yn cael ei gefnogi a'i herio gan y Grŵp Cyfeirio Arbenigol yr Astudiaeth a fydd yn cyd-gynhyrchu'r astudiaeth.
Hysbysiadau preifatrwydd