Grŵp Cyfeirio Arbenigol yr Astudiaeth

Bydd Grŵp Cyfeirio Arbenigol yr Astudiaeth yn adlewyrchu'r model cyffredinol o ymgysylltu a'r bartneriaeth sy'n sail i ddatblygu a gweithredu'r Ddeddf, gan sicrhau bod y gwerthusiad yn adlewyrchu profiadau sylfaenol rhanddeiliaid allweddol gan gynnwys pobl sy'n defnyddio gwasanaethau a'u gofalwyr.

Ni fydd y grŵp yn dylanwadu ar ganlyniad yr ymchwil annibynnol a wneir ond yn hytrach yn cynghori ac yn cynnig arweiniad ar y rhaglenni, y methodolegau a'r ymrwymiadau a ddatblygwyd gan y tîm, gan weithredu fel cyfaill beirniadol.

Bydd y grŵp yn seinfwrdd ac yn cynghori ar oresgyn rhwystrau posibl ac ar ddatblygu cyfleoedd creadigol. Bydd y grŵp yn galluogi datblygu cysylltiadau strategol a chynaliadwy rhwng ymchwilwyr a rhanddeiliaid allweddol. Bydd yn rhannu gwybodaeth am ddulliau a gwasanaethau sy'n cael eu datblygu yn lleol ac yn genedlaethol i hysbysu'r ymchwilwyr a'r astudiaeth.

Bydd y grŵp yn cael ei gadeirio ar y cyd gan dri unigolyn lleyg: arbenigwr lleyg fydd yn cysylltu â'r tîm academaidd, unigolyn ifanc i sicrhau bod hawliau plant a phobl ifanc yn cael eu hadlewyrchu yn yr astudiaeth, ac oedolyn i sicrhau bydd hawliau defnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr yn cael eu hadlewyrchu yn yr astudiaeth.