Mae'r set sylweddol gyntaf o ganfyddiadau astudiaeth barhaus IMPACT - y gwerthusiad cenedlaethol o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 – yn cael eu cyhoeddi heddiw, ynghyd â datganiadysgrifenedig gan y Gweinidog. Dan arweiniad yr Athro Mark Llewellyn, Cyfarwyddwr Sefydliad Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cymru (WIHSC), sydd wedi'i leoli ym Mhrifysgol De Cymru (USW), daw awduron yr adroddiad 'Gwerthuso'r Broses' i'r casgliad bod arweinwyr a gweithwyr yn y sector gofal cymdeithasol yng Nghymru 'ar y daith' tuag at weithredu'r Ddeddf yn llawn. Maen nhw hefyd yn nodi bod yr egwyddorion allweddol sy'n sail i'r Ddeddf - atal ac ymyrraeth gynnar, cyd-gynhyrchu, llesiant, llais a rheolaeth, a gweithio amlasiantaethol - yn ennyn cefnogaeth gyffredinol fel sylfaen i fframwaith gweithredu ar sail gwerthoedd ledled Cymru.
Bu tîm yr astudiaeth yn siarad â thros 150 o ymatebwyr ar draws pedair ardal yr astudiaeth achos, er mwyn asesu'r gwahaniaeth a wnaed hyd yma. Fe wnaethon nhw ganfod bod angen ‘cwantwm’ gwahanol o newid ar wahanol rannau o’r wlad. Mewn rhai rhannau o Gymru, roedd nifer o'r gweithgareddau a dulliau o fynd ati a nodwyd wedi'u hymgorffori cyn gweithredu'r Ddeddf a gwnaeth hyn y broses yn fwy llyfn o lawer. Roedd hefyd yn wir bod yn rhaid i’r ffurfiau hyn o ymarfer ‘cyn-alinio’ esblygu er mwyn cwrdd â’r dyletswyddau a’r gofynion newydd, ochr yn ochr â sefydlu ffyrdd newydd a thrawsnewidiol o weithio. Canfu'r tîm lefelau amrywiol o lwyddiant yn yr ymdrech hon, yn aml yn gysylltiedig â phwysau strwythurol, ariannol neu gapasiti sylfaenol. Yn hanfodol i weithrediad ‘llawn’ gweledigaeth uchelgeisiol y Ddeddf, mae cael digon o amser ac adnoddau er mwyn parhau i sicrhau a chynnal newid - a dyna pam y daethpwyd i'r prif gasgliad bod y gweithlu yn dal i fod 'ar y daith' o'i gweithredu.
Gan edrych tuag at rai o gamau nesaf yr astudiaeth, dywed yr awduron: “Rhan nesaf ein gwaith o Ionawr 2021 ymlaen ydy cael clywed yn helaeth gan yr holl ddefnyddwyr gwasanaeth, y gofalwyr, y teuluoedd a'r cymunedau. Rydyn ni am sicrhau ein bod yn cydbwyso safbwyntiau'r gweithlu gyda phrofiadau'r rhai sy'n cael cefnogaeth neu'n derbyn gofal."
Gwerthuso’r Broses – Adroddiad Cryno
Gwerthuso'r Broses - hawdd ei deall
Gwerthuso'r Broses - briff yrymchwil