02-09-2020
MAE PROSIECT sy'n dadansoddi Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn cael ei ymestyn yn dilyn saib yn ystod uchder pandemig Covid-19.
Bydd tîm dan arweiniad yr Athro Mark Llewellyn, Cyfarwyddwr Sefydliad Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cymru (WIHSC) ym Mhrifysgol De Cymru, yn ailafael yn eu gwaith ar werthuso llwyddiant deddfwriaeth Llywodraeth Cymru, a gafodd ei atal ym mis Mawrth.
Maen nhw'n cyhoeddi adolygiad llenyddiaeth [English only] eang heddiw, gan edrych ar yr egwyddorion allweddol y tu ôl i'r Ddeddf, a'r hyn rydyn ni'n ei wybod amdanyn nhw. Mae'r gwaith hwn yn bwysig er mwyn deall canlyniadau'r cyfnodau gwaith maes sydd i'w dilyn yn yr astudiaeth.
Heddiw, mae Julie Morgan, Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, wedi rhoi diweddariad ar y gwerthusiad, ac wedi nodi cynlluniau ar gyfer ei ddyfodol.
Dywedodd y bydd gwerthuso yn ailgychwyn yn ffurfiol y mis hwn, ac y bydd yn cynnwys ystod eang o randaliad yn ymgysylltu â thîm yr astudiaeth i'w helpu i ddeall yr effaith y mae'r ddeddfwriaeth yn ei chael ar y sector gofal cymdeithasol ac ar yr unigolion yng Nghymru sydd angen gofal a chefnogaeth.
Ychwanegodd y Dirprwy Weinidog y bydd llinyn o amser arall ar y gwerthusiad yma, a fydd yn canolbwyntio ar yr effaith y mae Covid-19 wedi'i chael ar ofal cymdeithasol a'r ddeddfwriaeth ei hun.
Bydd y saib yn yr astudiaeth, a’r ymchwil ychwanegol y bydd yn ei wneud nawr, yn golygu y bydd y gwerthusiad nawr yn parhau tan fis Hydref 2022, pan fydd adroddiad terfynol, gan gynnwys argymhellion, yn cael ei gyhoeddi.
“Nod y prosiect bydd cyflwyno asesiad annibynnol a gwrthrychol o weithredu’r Ddeddf a’r ffordd y mae wedi effeithio ar lesiant pobl sydd angen gofal a chefnogaeth, a’u gofalwyr,” meddai’r Athro Llewellyn.
“Dull y tîm fydd archwilio gweithrediad ac effaith y Ddeddf trwy ei phum egwyddor - llais a rheolaeth, lles, cyd-gynhyrchu, gweithio amlasiantaethol, ac atal ac ymyrraeth gynnar - a goblygiadau ariannol nhw i gyd.
“Yn amlwg, mae’r oedi oherwydd pandemig Covid-19 wedi effeithio ar yr ymchwil. Fodd bynnag, rydym yn awyddus i ddechrau eto ac edrych ar ba ddylanwad a gafodd y cloi ar y gwasanaethau cymdeithasol a lles pobl, a gallu cynnwys y canfyddiadau hyn yn y gwerthusiad terfynol o'r Ddeddf.”
20-11-2020
10-09-2020
02-09-2020
06-07-2020
16-06-2020
11-05-2020
31-03-2020