09-02-2021
Daeth y Ddeddf i rym ym mis Ebrill 2019, ac ers tymor yr Hydref 2018, mae tîm astudiaeth IMPACT wedi bod yn gweithio i ddeall a ydy ei gweithredu yn gwneud gwahaniaeth i ddefnyddwyr gwasanaeth, gofalwyr a'r gweithlu. Gan weithio mewn partneriaeth â'r Athro Fiona Verity o Brifysgol Abertawe, ac arbenigwyr eraill yn WIHSC, Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Bangor, nod yr ymchwil oedd deall sut mae'r ddeddfwriaeth wedi'i rhoi ar waith ar lefel genedlaethol, yn rhanbarthol a lleol. Canolbwyntiodd y cam 'Gwerthuso'r Broses' o'r prosiect ar bum amcan allweddol:
Bu tîm yr astudiaeth yn siarad â thros 150 o ymatebwyr ar draws pedair ardal yr astudiaeth achos, er mwyn asesu'r gwahaniaeth a wnaed hyd yma. Fe wnaethon nhw ganfod bod angen ‘cwantwm’ gwahanol o newid ar wahanol rannau o’r wlad. Mewn rhai rhannau o Gymru, roedd nifer o'r gweithgareddau a dulliau o fynd ati a nodwyd wedi'u hymgorffori cyn gweithredu'r Ddeddf a gwnaeth hyn y broses yn fwy llyfn o lawer. Roedd hefyd yn wir bod yn rhaid i’r ffurfiau hyn o ymarfer ‘cyn-alinio’ esblygu er mwyn cwrdd â’r dyletswyddau a’r gofynion newydd, ochr yn ochr â sefydlu ffyrdd newydd a thrawsnewidiol o weithio. Canfu'r tîm lefelau amrywiol o lwyddiant yn yr ymdrech hon, yn aml yn gysylltiedig â phwysau strwythurol, ariannol neu gapasiti sylfaenol. Yn hanfodol i weithrediad ‘llawn’ gweledigaeth uchelgeisiol y Ddeddf, mae cael digon o amser ac adnoddau er mwyn parhau i sicrhau a chynnal newid - a dyna pam y daethpwyd i'r prif gasgliad bod y gweithlu yn dal i fod 'ar y daith' o'i gweithredu.
Gan edrych tuag at rai o gamau nesaf yr astudiaeth, dywed yr awduron: “Rhan nesaf ein gwaith o Ionawr 2021 ymlaen ydy cael clywed yn helaeth gan yr holl ddefnyddwyr gwasanaeth, y gofalwyr, y teuluoedd a'r cymunedau. Rydyn ni am sicrhau ein bod yn cydbwyso safbwyntiau'r gweithlu gyda phrofiadau'r rhai sy'n cael cefnogaeth neu'n derbyn gofal."
Er gwaethaf y cyfnod clo presennol, mae gan y tîm gynllun helaeth o waith maes er mwyn ymgysylltu ag o leiaf 200 o ddefnyddwyr gwasanaeth, gofalwyr, teuluoedd a grwpiau a sefydliadau cymunedol yn ystod y rhan hon o'r prosiect. Bydd yr astudiaeth gyfan yn dod i ben yn nhymor yr Hydref 2022.