Rhwydwaith Ymchwil Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol Cymru

Violence Against Women GettyImages-1221586669.jpg



Cynhaliodd Rhwydwaith Ymchwil Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (DA&SV) Cymru, a sefydlwyd yn ddiweddar gan Dr Sarah Wallace, Sefydliad Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cymru a Dr Emily Underwood, Canolfan Adrodd Storïau George Ewart, gyda chymorth Canolfan PRIME Cymru, ddau gyfarfod o ddiddordeb ar 29 Mehefin a 2 Gorffennaf 2021.


Mynychwyd y cyfarfodydd gan amrywiaeth o bartneriaid allweddol gan gynnwys cynrychiolwyr o dîm Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (VAWDASV) Llywodraeth Cymru, darparwyr gwasanaethau DA&SV, timau VAWDASV Rhanbarthol, academyddion a rhanddeiliaid eraill.


Mae rhwydwaith ymchwil Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol wedi'i fwriadu ar gyfer unrhyw un sydd â diddordeb mewn gosod yr agenda ymchwil ac ymestyn y sylfaen ymchwil mewn perthynas â Cham-drin Domestig a Thrais Rhywiol yng Nghymru. I gael rhagor o wybodaeth am y rhwydwaith, cysylltwch â [email protected] neu [email protected].