04-11-2021
Mae academyddion ym Mhrifysgol De Cymru (PDC) wedi sefydlu rhwydwaith ymchwil i weithio tuag at ddileu Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (VAWDASV).
Arweinir y rhwydwaith ymchwil gan Dr Sarah Wallace, Uwch Gymrawd Ymchwil yn Sefydliad Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cymru (WIHSC), a Dr Emily Underwood-Lee, Athro Cysylltiol Astudiaethau Perfformio yng NghanolfanGeorge Ewart Evans ar gyfer Adrodd Storïau Prifysgol De Cymru. Fe'i cefnogir gan Gyfadran y Diwydiannau Creadigol a Chanolfan PRIME Cymru, ac mae'n cael ei lywodraethu gan grŵp craidd o academyddion, llunwyr polisi, ac ymarferwyr o'r sector VAWDASV yng Nghymru. Fe’i cefnogir hefyd gan aelod ymroddedig o staff Uned Atal Trais Cymru yn Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Y nod yw datblygu cymuned ymchwil gynhwysol i Gymru sy'n darparu fforwm diogel, agored i ddod â'r rhai sy'n gweithio tuag at roi diwedd ar VAWDASV ynghyd i osod agenda ymchwil y dyfodol, meithrin cydweithredu a datblygu ceisiadau am grant, ymgymryd ag ymchwil o ansawdd uchel, a gweithio tuag at ddileu VAWDASV.
Dywedodd Dr Emily Underwood-Lee: “Ein nod yw alinio ein holl weithgareddau â thirwedd polisi Cymru, er enghraifft Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015, Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.
“Trwy bennu a deall blaenoriaethau ymchwil ac ymarfer Cymru, gallwn rannu gwybodaeth ac arbenigedd, gan sicrhau bod y rhwydwaith yn hygyrch ac yn gynhwysol, a datblygu gweithio mewn partneriaeth yn y dyfodol ledled y DU ac yn rhyngwladol.”
Ychwanegodd Dr Sarah Wallace: “Mae rhwydwaith ymchwil VAWDASV Cymru yn gyfle cyffrous a gwerthfawr ar gyfer gweithio mewn partneriaeth gynhwysol, i ddatblygu a chynnal ymchwil sy’n gweithio tuag at roi diwedd ar VAWDASV.”
Caiff Rhwydwaith Ymchwil VAWDASV Cymru ei lansio’n swyddogol ar 25 Tachwedd ar Gampws Caerdydd PDC, a fydd hefyd yn nodi’r Diwrnod Rhyngwladol ar gyfer Dileu Trais yn erbyn Menywod.
Cynhelir y digwyddiad rhwng hanner dydd a 2.30pm a bydd yn cynnwys prif areithiau gan Jane Hutt MS, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, yn ogystal â thrafodaeth banel yn ymdrin â phynciau allweddol ym maes VAWDASV. Bydd myfyrwyr MA Drama o PDC hefyd yn perfformio datganiad barddoniaeth fel rhan o'r lansiad.
Cadeirir y drafodaeth banel gan Dr Emily Underwood-Lee, gyda phanelwyr yn cynnwys:
Cysylltwch â Rhwydwaith Ymchwil VAWDASV trwy Trydar @VAWDASVWales i gael mwy o wybodaeth am ei weithgareddau ymchwil.
04-11-2021
05-08-2021
05-07-2021
26-05-2021
09-02-2021