05-08-2021
Wedi'i gomisiynu gan Lywodraeth Cymru, mae Sefydliad Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cymru yn arwain yr astudiaeth hon mewn partneriaeth â Data Cymru.
Drwy Fforwm Gwaith Teg Gofal Cymdeithasol nodwyd diffyg dealltwriaeth o rôl cynorthwywyr personol yng Nghymru ynghyd â bylchau data a gwybodaeth a bod angen ymchwil i ddeall yn well yr heriau sy'n wynebu'r gweithlu hwn.
Mae cynorthwyydd personol yn darparu gofal a chymorth sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, fel y gallant gyflawni canlyniadau llesiant personol lle mae'r unigolyn yn byw.
Gan ddefnyddio dull cymysg, bydd yr astudiaeth yn casglu data a gwybodaeth ledled Cymru, yn nodi materion allweddol, ac yn nodi arfer gorau ac yn argymell opsiynau ar gyfer cyflwyno newidiadau i'r system.
Yr Athro Mark Llewellyn yw cyfarwyddwr y prosiect a Dr Sarah Wallace yw rheolwr y prosiect.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â: [email protected]
04-11-2021
05-08-2021
05-07-2021
26-05-2021
09-02-2021