08-09-2022
Mae astudiaeth a gynhaliwyd gan Sefydliad Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cymru (WIHSC), Prifysgol De Cymru, mewn partneriaeth â Data Cymru, wedi’i chyhoeddi. Wedi’i chomisiynu gan Lywodraeth Cymru, mae’r astudiaeth, ‘Ymchwil ar gyflogi Cynorthwywyr Personol ym maes Gofal Cymdeithasol yng Nghymru’ yn rhan o raglen waith y Fforwm Gwaith Teg Gofal Cymdeithasol.
Mae gan unigolion sydd angen gofal a chymorth yr opsiwn i gyflogi Cynorthwywyr Personol (PAs) yn uniongyrchol i'w cynorthwyo, a thrwy hynny ddod yn gyflogwyr yn eu rhinwedd eu hunain. Archwiliodd yr astudiaeth rôl cynorthwywyr personol yn y sector gofal cymdeithasol, casglodd ddata ar lefel Cymru ar y gweithlu, nodwyd materion allweddol sy'n wynebu'r gweithlu, ac enghreifftiau o arfer da.
Dengys y canfyddiadau beth sy'n gweithio'n dda, a'r meysydd allweddol sy'n effeithio ar Gynorthwywyr Personol a'u cyflogwyr.
Roedd llawer o'r nodweddion a oedd yn gweithio'n dda i Gynorthwywyr Personol yn gysylltiedig â'r perthnasoedd agos cynhenid a adeiladwyd gyda'u cyflogwyr, yn seiliedig ar ymddiriedaeth a pharch at ei gilydd. Cafodd Cynorthwywyr Personol foddhad swydd amlwg o ddarparu gofal sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, parhad gofal, a galluogi dewis a rheolaeth, a chefnogi eu cyflogwr/cyflogwyr i gyflawni eu canlyniadau. Roedd y nodweddion hyn yr un mor bwysig i gyflogwyr a gyfeiriodd hefyd at eu hangen am ansawdd bywyd da, annibyniaeth, a chael amser ar gyfer ymrwymiadau eraill, er enghraifft, teulu a chyflogaeth.
Cadarnhaodd y mwyafrif o Gynorthwywyr Personol a chyflogwyr fod contractau parhaol ar waith ond ystyriwyd bod angen gwella cysondeb o ran cyflog, telerau ac amodau. Amlygodd y dystiolaeth nad yw tâl yn aml yn adlewyrchu lefel y cymhlethdod a’r sgiliau sydd eu hangen ac y gall fod diffyg dealltwriaeth gyffredin o delerau ac amodau cyflogaeth Cynorthwywyr Personol, er enghraifft hawliau megis gwyliau, goramser, a thâl salwch. Amlygodd yr Adroddiad hefyd nad yw rhai Cynorthwywyr Personol yn bodloni’r trothwyon ar gyfer cyfraniadau Yswiriant Gwladol, Tâl Salwch Statudol, a budd-daliadau eraill oherwydd mai dim ond nifer fach o oriau y maent yn eu gweithio.
Amlygwyd prinder cyfleoedd hyfforddiant a datblygu i Gynorthwywyr Personol yn ogystal â diffyg hyfforddiant arbenigol. I gyflogwyr, roedd heriau’n cyfeirio at dalu treuliau i Gynorthwywyr Personol, a dod o hyd i gyflenwi ar gyfer absenoldebau. Fodd bynnag, cytunodd y mwyafrif o Gynorthwywyr Personol eu bod yn teimlo eu bod wedi'u harfogi i gyflawni eu rôl tra bod cyflogwyr hefyd yn pwysleisio pwysigrwydd rhinweddau personol, gan gynnwys cydnawsedd, ochr yn ochr â hyfforddiant a chymwysterau ffurfiol.
Roedd anawsterau recriwtio i gyflogwyr yn amrywio o fethu â recriwtio cynorthwyydd personol addas ar gyfer oriau penodol, i allu dod o hyd i gyflenwi pan oedd eu Cynorthwywyr Personol yn absennol. Cyfeiriodd galluogwyr cadw at fod yn gyflogwr cefnogol, parch at ei gilydd, a darparu gwybodaeth glir ynghylch swydd-ddisgrifiadau, manylebau person, hawliau, a chyfraddau cyflog. Dywedodd dros 50% o gyflogwyr fod Cynorthwywyr Personol wedi bod yn eu swyddi ers dros 12 mis.
Amlygodd yr adroddiad bwysigrwydd bod cyflogwyr yn derbyn ac yn cael mynediad at wybodaeth, arweiniad a chefnogaeth i gyflawni eu rôl i gefnogi eu Cynorthwywyr Personol yn llawn a chynnal eu cyfrifoldebau cyflogaeth.
Dywedodd Dr Sarah Wallace, Uwch Gymrawd Ymchwil: “Roeddem yn falch o fod wedi gallu cynnal yr astudiaeth hon ac ychwanegu at y wybodaeth am y gweithlu pwysig hwn. Mae natur bersonol iawn gofalu am bobl mewn lleoliad un-i-un yn golygu ei bod yn hollbwysig bod Cynorthwywyr Personol a’u cyflogwyr yn gallu mynegi eu barn a’u pryderon ynghylch sut mae eu perthynas yn gweithio’n ymarferol.
“Mae’r astudiaeth wedi helpu i ddarparu’r dystiolaeth ddiweddaraf i Lywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol a bydd yn eu cefnogi yn eu hymdrechion i sicrhau gwelliant parhaus yn ansawdd y gofal y mae pawb yn ei geisio.”
Dywedodd Julie Morgan AS, y Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol: “Mae’r dystiolaeth y mae WIHSC wedi’i darparu yn gynhwysfawr ac yn amhrisiadwy o ran dod â lleisiau a phrofiadau Cynorthwywyr Personol yn uniongyrchol i’n trafodaethau cenedlaethol am ofal cymdeithasol yng Nghymru.
“Mae Cynorthwywyr Personol yn rhan annatod o deulu’r gweithlu gofal cymdeithasol ac yn chwarae rhan hollbwysig wrth alluogi llais a rheolaeth. Mae taliadau uniongyrchol yn grymuso ac yn cefnogi pobl i barhau i fyw’n annibynnol ac i allu gwneud dewisiadau am eu gofal a’u cymorth. Bydd yr egwyddorion hyn yn parhau i fod yn hollbwysig yn ein gweledigaeth ar gyfer dyfodol gofal cymdeithasol.
“Rydym eisoes yn mynd i’r afael â chyflogau isel drwy sicrhau bod y Cyflog Byw Gwirioneddol yn ymestyn i Gynorthwywyr Personol fel rhan o’n trefniadau ehangach i gydnabod y gweithlu. Bydd y canfyddiadau pwysig hyn yn helpu i lywio ein camau gweithredu parhaus i gydnabod a chefnogi’r gweithlu gofal cymdeithasol ledled Cymru gan gynnwys drwy’r Fforwm Gwaith Teg Gofal Cymdeithasol.”
18-10-2022
08-09-2022
03-03-2022
11-01-2022