03-03-2022
Dylai'r bobl hynny yng Nghymru sy'n dibynnu ar wasanaethau cymdeithasol allu disgwyl cymorth pryd a ble mae ei angen, a pheidio â gorfod brwydro i gael eu clywed.
Dyna un o ganfyddiadau allweddol gwerthusiad cenedlaethol o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a wnaed gan ymchwilwyr yn Athrofa Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cymru (WIHSC), sydd wedi'i lleoli ym Mhrifysgol De Cymru (PDC), mewn partneriaeth â'r Athro Fiona Verity a chydweithwyr iddi o Brifysgol Abertawe, ac eraill o Brifysgol Metropolitan Caerdydd a Phrifysgol Bangor.
Mae’r adroddiad yn darparu canfyddiadau gan 170 o bobl sy’n byw yng Nghymru sy’n cael gofal a chymorth neu sy’n ofalwyr, ac mae’n rhan o werthusiad ehangach o’r Ddeddf, a elwir yn astudiaeth IMPACT.
Er bod rhai o ganfyddiadau'r arolwg yn gadarnhaol – dywedodd nifer o ymatebwyr eu bod yn teimlo bod gweithwyr proffesiynol yn sylwi mwy arnynt ers y Ddeddf, a bod ganddynt well perthynas â'u gweithiwr cymdeithasol – canfu'r astudiaeth nifer o faterion y mae angen mynd i'r afael â nhw.
Roedd rhai ymatebion yn tynnu sylw at y ffaith bod rhai unigolion yn teimlo nad oedd gwasanaethau’n gwrando arnyn nhw, a bod yn rhaid iddynt frwydro ac ymladd am gymorth, a’u bod yn cael eu hanwybyddu oni bai eu bod yn wynebu argyfwng. Tynnodd yr addrodiad sylw hefyd at bryderon unigolion ynghylch peidio â chael eu cynnwys mewn trafodaethau a phenderfyniadau ynghylch y gefnogaeth roedden nhw’n ei derbyn, eu bod yn ansicr ynghylch eu hawliau o dan y Ddeddf, ac anawsterau wrth gael cymorth yn y Gymraeg. Ar y cyfan, teimlai pobl nad oedd eu profiadau o dan y Ddeddf wedi bodloni eu disgwyliadau o a’u gobeithion.
Dywedodd yr Athro Mark Llewellyn, Cyfarwyddwr WIHSC ac arweinydd yr astudiaeth, fod y gwerthusiad wedi codi materion pwysig yn ymwneud â'r Ddeddf ac y byddai'n gweithredu fel ffon fesur i Lywodraeth Cymru a gweithwyr cymdeithasol proffesiynol fesur gwelliannau yn ei herbyn.
"Mae'r astudiaeth wedi tynnu sylw at fwlch sy'n bodoli rhwng disgwyliadau pobl o ran gwasanaethau cymdeithasol a chefnogaeth gyda’u llesiant, a sut mae’u profiadau heb wireddu’r disgwyliadau hynny’n llawn," meddai'r Athro Llewellyn.
“Mae astudiaeth IMPACT bellach yn agos at ei chasgliad, ac yn y chwe mis nesaf byddwn yn tynnu ar yr holl dystiolaeth a gasglwyd, ac yn gweithio gyda’n gilydd i ddod o hyd i ffyrdd o bontio’r bwlch rhwng y disgwyliadau a gynigiwyd gan y Ddeddf a phrofiad byw'r rhai sy’n teimlo. nid yw eu disgwyliadau wedi’u bodloni.”
18-10-2022
08-09-2022
03-03-2022
11-01-2022