Gwerthusiad o Wasanaeth Cyfeillio’n Cysylltu Bywydau Age Cymru Dyfed

GettyImages-941321408.jpg

 

Comisiynwyd WIHSC gan Age Cymru Dyfed i werthuso eu gwasanaeth Cyfeillio’n Cysylltu Bywydau. Mae'r prosiect hwn yn gweithredu ar draws ardaloedd Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro, a'i nod yw cefnogi pobl dros 50 oed sydd wedi mynd yn ynysig yn gymdeithasol, wedi encilio, wedi dioddef colli hyder neu sydd ag ymdeimlad isel o les.  


Mae tîm o staff a gwirfoddolwyr yn helpu unigolion i gymryd rhan mewn grwpiau cymdeithasol lleol a gweithgareddau priodol eraill sy'n addas iddynt fel unigolion yn eu barn nhw. 


Mae WIHSC wedi cytuno i werthuso'r prosiect, o fis Mehefin 2021 i fis Hydref 2022, gan gynnal ymchwil ansoddol ar ffurf cyfweliadau lled-strwythuredig, grwpiau ffocws ac arolygon a gynhaliwyd gyda buddiolwyr y gwasanaeth, gwirfoddolwyr, rhanddeiliaid a staff Age Cymru Dyfed. 


Bydd adroddiad gwerthuso terfynol yn cael ei lunio yn 2022. Yr Athro Mark Llewellyn yw cyfarwyddwr y prosiect a Dr Sion Tetlow yw rheolwr y prosiect. Gellir anfon unrhyw ymholiadau at [email protected]