Canolfan PRIME Cymru

Mae Canolfan PRIME Cymru yn ganolfan ymchwil sy'n canolbwyntio ar ofal sylfaenol a gofal brys, a ariennir gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru er mwyn datblygu a chydlynu cynigion ymchwil a chefnogi ymchwilwyr.

Nod Canolfan Ymchwil Gofal Sylfaenol a Gofal Brys Cymru (PRIME Centre Wales) yw gwella iechyd a lles drwy gynnal ymchwil o ansawdd uchel ar bynciau sy'n flaenoriaeth polisi cenedlaethol mewn gofal sylfaenol a gofal brys a sicrhau bod canfyddiadau'n cael eu trosi'n bolisi ac yn ymarfer.

Mae'n ganolfan i Gymru gyfan a arweinir ar y cyd gan Brifysgol Caerdydd, Prifysgol Bangor, Prifysgol De Cymru, a Phrifysgol Abertawe.

Arweinir PRIME PDC gan yr Athro Joyce Kenkre a'r Athro Carolyn Wallace ac mae'n rhan o faes ymchwil WP4 Closer to Communities.

Gwerthusiad o’r Cynlluniau Peilot Nyrsio Ardal Gymdogaeth yng Nghymru

Mae Tîm PDC PRIME wedi bod yn rhan o'r tîm sy'n gwerthuso'r Cynlluniau Peilot Nyrsio Ardal Gymdogaeth yng Nghymru. Gwnaeth Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, ddatganiad am yr adroddiad Gwerthusiad o’r Cynlluniau Peilot Nyrsio Ardal Gymdogaeth yng Nghymru.


Gellir dod o hyd i bortffolio ymchwil manwl ar gyfer PRIME PDC drwy chwilio cronfa ddata portffolio ymchwil Canolfan PRIME Cymru a dewis WP4.


Gellir dod o hyd i restr lawn o gyhoeddiadau PRIME PDC trwy chwilio cronfa ddata Canolfan PRIME Cymru a dewis WP4.