I ddathlu ein pen-blwydd arian, byddwn yn postio nifer o wahanol bethau'r wythnos hon, ac ar draws y misoedd nesaf.
O feddyliau am y dirwedd iechyd a gofal cymdeithasol yr effeith-iwyd arni gan COVID-19 i fy-fyr-dodau ar chwarter canrif olaf ein bodolaeth.
Mae WIHSC yn rhan o'r Ysgol Gwyddorau Gofal yn y Gyfadran Gwyddorau Bywyd ac Addysg. Bu Pennaeth yr Ysgol, Dr Ian Mathieson, yn rhoi ei sylwadau ar fodolaeth WIHSC ddoe a heddiw.
MWY
PERTHNASOL NAG ERIOED” – WIHSC@25
Mae'n hyfryd gweld WIHSC yn cyrraedd ei ben-blwydd yn 25 oed. Ni fu ei weithgareddau, sy'n canolbwyntio ar integreiddio iechyd a gofal cymdeithasol a gweithio gyda phobl Cymru i wella gwasanaethau, erioed yn fwy perthnasol. O ystyried bod WIHSC wedi hyrwyddo'r materion hyn ar hyd ei fodolaeth, a'u bod yn cydweddu â Phrifysgol De Cymru a'i hymdeimlad brwd o le a'i chyfrifoldeb dinesig, mae'n braf gweld adnewyddu'r pwyslais ar y meysydd hyn a fydd yn sicr o weld WIHSC yn parhau i ffynnu. Mae WIHSC yn cyfoethogi diwylliant a chymuned yr Ysgol Gwyddorau Gofal, lle mae wedi ei leoli, a'r Brifysgol ehangach. Rydym yn falch iawn o ail-ddatgan ein hymrwymiad i WIHSC, ac i weithio gyda'r Athro Llewellyn a'r tîm ar ei integreiddio nes fyth i'r Ysgol a'r Gyfadran. Yn ogystal â dathlu ei gyflawniadau dros y chwarter canrif ddiwethaf, edrychwn ymlaen at y 25 mlynedd nesaf.